Gwisgo’r Maglia Rosa: Giro d’Italia 2018

b670771a-a048-47e0-b68d-ebf86801eaa2

Ym mis Mai eleni mi fydd y Giro D’Italia yn cael ei chynnal am yr 101fed  waith.  Dynoda’r 23 Ionawr 101 o ddiwrnodau yn union cyn dechrau’r ras ar 4 Mai. I ddynodi fod 101 o ddyddiau cyn y cychwyn, ac i gyd-fynd gyda’r ffaith fod y Giro yn 101 oed eleni mae’r dinasoedd hynny fydd yn gartref i gymalau o’r ras wedi bod yn goleuo nifer o’u hatyniadau yn binc (y lliw sy’n gysylltiedig gyda chrys arweinydd/enillydd y ras). Gweler casgliad o luniau o atyniadau ar draws yr Eidal wedi’u goleuo’n binc ar safle Instagram Giro d’Italia:

https://www.instagram.com/giroditalia/?hl=en

Am y tro cyntaf erioed mi fydd y ras yn dechrau tu allan i Ewrop, a hynny yn y Dwyrain Canol, yn Israel. Bu ychydig o anghydfod yn barod rhwng llywodraeth Israel a threfnwyr y Giro ynghylch pa enw y dylid ei ddefnyddio,  ai ‘Gorllewin Caersalem’ neu ‘Caersalem’, i ddynodi lleoliad cychwynnol y ras. Dymuniad llywodraeth Israel oedd y ‘dadleuol’ Caersalem, gan hepgor y ‘Gorllewin’, ac ildiwyd i’r dymuniad.

Fe fydd 21 cymal i’r ras rhwng 4 Mai a 27 Mai, gyda 3 o’r cymalau hynny yn digwydd ar dir Israel, y tro cyntaf erioed i’r Giro fentro tu allan i Ewrop.

Dyma restr o 21 cymal ras 2018

  • Cymal 1 – CAERSALEM (Gorllewin) – CAERSALEM (Gorllewin)
  • Cymal 2  –HAIFA – TEL AVIV
  • Cymal 3 – BE’ER SHEVA – EILAT
  • Cymal 4 – CATANIA – CALTAGIRONE
  • Cymal 5 – AGRIGENTO – SANTA NINFA
  • Cymal 6 – CALTANISSETTA – ETNA
  • Cymal 7 – PIZZO – PRAIA A MARE
  • Cymal 8 – PRAIA A MARE – MONTEVERGINE DI MERCOGLIANO
  • Cymal 9 – PESCO SANNITA – GRAN SASSO D’ITALIA
  • Cymal 10 – PENNE – GUALDO TADINO
  • Cymal 11 – ASSISI – OSIMO
  • Cymal 12 – OSIMO – IMOLA
  • Cymal 13 – FERRARA – NERVESA DELLA BATTAGLIA
  • Cymal 14 – SAN VITO AL TAGLIAMENTO – MONTE ZONCOLAN
  • Cymal 15 – TOLMEZZO – SAPPADA
  • Cymal 16 – TRENTO – ROVERETO
  • Cymal 17 – FRANCIACORTA
  • Cymal 18 – ABBIATEGRASSO – PRATO NEVOSO
  • Cymal 19 – VENARIA REALE – BARDONECCHIA
  • Cymal 20 – SUSA – CERVINIA
  • Cymal 21 – RHUFAIN – RHUFAIN

Mae yna bedwar categori yn y Giro, ac arweinydd pob categori ar ddiwedd pob cymal yn gwisgo crys lliw arbennig i ddynodi mai ef  yw arweinydd y categori penodol.

Maglia Rosa – Crys Pinc – Arweinydd y ras

Maglia Ciclamino – Crys Siclamen – Arweinydd pwyntiau

Maglia Azzurra – Crys Glas – Arweinydd Brenin y Mynyddoedd

Caiff y beiciwr gorau (y lleiaf  o ran amser, ar gyfartaledd, ar ôl pob cymal) o dan 25 oed y Maglia Bianco sef y Crys Gwyn.

Un o’r brwydrau i gadw llygad arni fydd honno rhwng y Prydeiniwr, Chris Froome, a fu’n fuddugol yn y Tour De France a’r Vuelta a España yn 2017, a’r gŵr o Messina yn Sisili, Vincenzo Niabli, sydd eisoes wedi ennill y Giro d’Italia ddwywaith yn 2013 a 2016.

Mae’r cyffro i gyd yn dechrau ar 4 Mai 2018!

Hawlfraint @ 2018 Cambria Nostra

 

Advertisements


Categories: Cymdeithas, Erthyglau Cymraeg

%d bloggers like this: