Rygbi Cymru

  dav

Gan Huw Davies


Gyda chyfres yr Hydref yn fwy neu lai ar ben i’n tîm cenedlaethol, mae hi bron yn amser i droi ein golygon at her y Gwanwyn.  Mae’r timau rhanbarthol yn croesawu’r  chwaraewyr yn ôl wedi pedwar prawf digon corfforol a heriol.  Yn gyffredinol, er yn chwarae mewn arddull mwy eang, a byddai rhai yn dweud mai dyma ein gêm draddodiadol a naturiol, mae dylanwad Gatland yn dal yno yn y math o batrymau sy’n cael eu creu.  Fe lwyddodd yr Alban ddangos sut mae darganfod gofod ar y maes chwarae, gyda’r gobaith am fwy o lwyddiant yng nghamp y chwe gwlad:  cadarn yn y chwarae gosod ond chwim yn y chwarae agored.  Digon cadarn yw Lloegr, ond gyda phwll dwfn o chwaraewyr yn y timau rhanbarthol.

Dyw’r Gleision, y Gweilch a’r Dreigiau ddim wedi llwyddo i berswadio’r ffyddloniaid fod yna wawr newydd ar y gorwel.  Mae’r niferoedd sy’n mynychu gemau yn isel i gymharu â’r tyrfaoedd sy’n cefnogi’r timau rhanbarthol yn Iwerddon.  Mewn sgwrs gyda gyrrwr tacsi yn Nulyn yn ddiweddar fe wnaeth e bwyntio allan nad dyma brif gamp y Gwyddelod ond bod balchder a strwythurau rygbi ar yr ynys yn llawer mwy trefnus nag yng Nghymru.  Digon tebyg yw’r sefyllfa yn yr Alban.

Os am chwarae i Gymru, rhaid aros o fewn ein ffiniau gan chwarae i un o’n pedwar clwb rhanbarthol.  Os yw chwaraewr am ddilyn y bunt neu’r euro, yna ni ddyle fe gael ei ddewis ar gyfer ein carfan genedlaethol.  Ffyddlondeb, ymroddiad, llwyddiant a gwobrwyo yma yng Nghymru yw’r nod.  Blaenoriaeth i chwaraewyr lleol yn ein clybiau hefyd a balchder yn y bathodyn.  Mae hi mor drist gweld unigolion yn chwarae i dîm heb unrhyw gysylltiad o safbwynt genedigaeth, magwraeth a theyrngarwch.  Fe fyddwn yn mynd mor bell â dweud yr un peth am ein hyfforddwyr.  Mae’n anodd credu bod neb ar gael a allai gymryd yr awenau.

Mae hi siŵr o fod yn rhwystredig i chwaraewyr a hyfforddwyr cynhenid i weld tramorwyr yn cymryd lle haeddiannol brodorion. Mae’r hen ddadl, bod rhaid dewis y gorau, yn un flinedig ac yn adlewyrchu diffyg hyder.  Cyfrifoldeb yr Undeb yw creu strwythurau sy’n arwain at ffynhonnell gyfoethog o unigolion gyda’r sgiliau i chwarae a hyfforddi.

Ar nodyn gwahanol, roedd y cefnogwyr o bob gwlad wedi mwynhau’r gyfres a darparwyd sioe ac adloniant o flaenllaw gan yr Undeb.  A fyddai modd gosod geiriau’r caneuon ar y sgrin fawr fel bod pawb yn gallu canu gyda’i gilydd?  Mae’r cyhoeddiadau dwyieithog yn arbennig o dda a does dim maes gwell i gael, yn arbennig gyda’r to ar gau.

Does dim angen ofni unrhyw sialens, hyd yn oed y Maorïaid.  Mae yna 4.7 miliwn yn byw yn Seland Newydd i gymharu â 3.1 miliwn yma yng Nghymru. Gwledydd bychan yw’r ddwy ac fe ddaw ‘dydd y bydd mawr y rhai bychain’.  Buddsodder yn y Cymry ac apêlier at chwaraewyr i aros yma, yn ein gwlad, lle clywir iaith y nefoedd ar feysydd chwarae, yn ein cartrefi, mewn gweithleoedd ac ar y stryd.

 

Advertisements


Categories: Society / Cymdeithas

%d bloggers like this: