Ein dyled i’r Diwygiad Protestannaidd

gethinrhys cul

Gan  Y Parchedig Gethin Rhys


Ar Hydref 31 eleni fe gofiwyd 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd. Dathliad i rai, gofid i eraill – a dim ots gan lawer.

Yma yng Nghymru fe gynhaliwyd y dathliad cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol yr Eglwys Gatholig yng Nghaerdydd. Wrth eistedd yno, bûm yn synfyfyrio tybed beth fyddai’r mynach Martin Luther wedi gwneud o hynny? Yn cerdded i mewn ar y cychwyn fe ddaeth yr Archesgob Catholig, George Stack; Archesgob newydd yr Eglwys yng Nghymru, John Davies; Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Rheinallt Thomas; Ysgrifennydd y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru, Elfed Godding; a bugail yr eglwysi Lutheraidd Almaeneg yng Nghymru, Albrecht Büurma.

Y gwir yw fod pob un o’r pump traddodiad yna yn ddyledus i’r Diwygiad Protestannaidd. Ni fyddai’r pedwar olaf yn bodoli onibai amdano. Ac, ys dywedodd George Stack ei hun, roedd angen Martin Luther ar yr Eglwys Gatholig iddi hithau ddiwygio yn y blynyddoedd a’r canrifoedd dilynol. Roedd y canu yn orfoleddus a’r cymdeithasu yn gynnes. Arwyddair Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) pan gafodd ei sefydlu ym 1990 oedd ‘Nid dieithriaid mwyach, ond pererinion ynghyd’. A dyna oedd yr ymdeimlad – roedd yr arweinyddion hyn yn adnabod ei gilydd, a hyd yn oed y sawl oedd yn camu i Gadeirlan Gatholig am y tro cyntaf yn teimlo’n gartrefol.

Er mai dieithr yw Lutheriaeth i’r rhan fwyaf yng Nghymru, mae ei phresenoldeb mewn tair cynulleidfa (Llanelli, Abertawe a Chaerdydd) yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cyfandir Ewrop i’n datblygiad fel cenedl. Roedd cynnwys yr Almaeneg yn y gwasanaeth ar y cyd â’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein hatgoffa ar adeg dyngedfennol o’n hetifeddiaeth Ewropeaidd yn ogystal â’n hetifeddiaeth Brotestannaidd.

Fe arhosodd Cymru yn Gatholig am hanner canrif wedi cychwyn y Diwygiad. Nid oedd gwasanaethau Saesneg Eglwys Loegr yn fwy dealladwy i’r Cymry na gwasanaethau Lladin yr Hen Grefydd. Ond ym 1567 fe gyfieithwyd y Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin gan William Salesbury, a gorchmynnodd y Frenhines Elizabeth eu defnyddio ledled Cymru. Fe ddaeth blas ar y Brotestaniaeth oedd eisoes yn cyniwair trwy Ewrop i Gymru. Ond fe barhaodd Catholigiaeth mewn mannau diarffordd yng nghefn gwlad. Yn Sir Frycheiniog o 1662 ymlaen roedd Cwm Senni yn gwm rhyfedd iawn, yn llawn Annibynwyr (gan iddynt godi tŷ cwrdd yno y pellter angenrheidiol o eglwys y plwyf) a Chatholigion (gan fod y lle mor anghysbell nid oedd yr awdurdodau yn eu poeni). Yn anochel, fe fu cyd-briodi rhwng y teuluoedd ond fe barhaodd y ddwy grefydd  hyn ochr yn ochr yn y cwm Cymraeg yma am ganrifoedd.

Yn hynny o beth, roedd Cwm Senni yn rhagflas o’r gyfeillach Gristnogol yn yr Eglwys Gadeiriol yn 2017. Ond mae pethau eraill wedi newid. Nid Cymraeg yw prif iaith Cwm Senni na Chymru bellach. Mae amrywiaeth ryfeddol yr enwadau a’r mathau o Gristnogaeth yn ddryswch i bawb sydd y tu allan iddynt, a llawer sydd tu fewn. A bydd llawer o Gymry yn gwbl anymwybodol o arwyddocâd y 500 mlwyddiant hwn.

Ac eto, ni fyddai Cymru heddiw yn bodoli hebddo. Oni bai am William Salesbury ac Elizabeth 1, mae’n ddigon posibl y byddai’r Gymraeg wedi dioddef yr un ffawd â’r Gernyweg, a diflannu erbyn 1800. Oni bai am Brotestaniaeth Anghydffurfiol a’i allu i adeiladu capeli ar frys, ni fyddai gofal bugeiliol nac ymarferol wedi bod ar gael yng ngymoedd y de pan ruthrodd cannoedd o filoedd o bobl yno yn y 19eg ganrif i geisio gwaith yn y gweithfeydd glo newydd, a byddai cymdeithas gynnes y cymoedd hynny yn dra gwahanol heddiw heb y dylanwad Cristnogol hwnnw. Ac oni bai am ail gyfreithloni y grefydd Gatholig ym 1829 ni fyddai croeso Cristnogol wedi bod i’r Gwyddyl, y Pwyliaid ac eraill a ddaeth i Gymru yn eu sgîl.

Beth bynnag yw sefyllfa grefyddol Cymru heddiw – a thestun erthygl arall fyddai hynny – ni fyddai ein Cymru gyfoes yn bodoli fel ag y mae heb yr hanes y buom yn ei ddathlu ar Hydref 31. Mae gennym oll, felly, beth bynnag ein ffydd neu ein cred, le i ddiolch amdano.

Mae’r Parchedig Gethin Rhys yn gweithio i Cytûn fel Swyddog Polisi Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Advertisements


Categories: Cymraeg

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: