Hunaniaeth Cymry America

emig_poster2

Dr Rhiannon Heledd Williams

Mae’r profiad o archwilio hunaniaeth a chenedligrwydd (national identity) yn un ddyrys dros ben, ac yn un sy’n effeithio pob un ohonom i raddau amrywiol. Erys y dryswch yn y ffaith na ellir diffinio’r cysyniad o genedligrwydd na’i gyffredinoli yn llwyddiannus:

“Nationalities are the products of the living forces of history, and therefore fluctuating and never rigid. They are groups of the utmost complexity and defy exact definition.”[1]

Er i’r ymdeimlad o genedligrwydd effeithio ar bob unigolyn, erys y cysyniad haniaethol yn ddirgelwch i ymchwilwyr o unrhyw ddisgyblaeth:

“National character is not an explanation, it is something to be explained. In establishing the variation of national character, science has not solved the problem of the nation, but simply posed it. How that relative community of character arises, how it happens that all members of a nation, for all their individual differences, still coincide in a series of features, and for all their physical and mental identity with other people still differ from the members of other nations – this is precisely what science has to grasp.”[2]

Mae’r dadleuon yn cael eu herio a’u trawsnewid yn barhaus fel mae cenhedloedd a chymdeithas yn newid, ond mae’r profiad o ddiffinio hunaniaeth yn parhau yn un dirdynnol. Oherwydd amgylchiadau unigryw pob cenedl a’r myrdd o ffactorau amrywiol a gyfrir yn nodweddion cenedligrwydd, ni ellir cyffredinoli wrth ddiffinio un ystyr dilys.

I mi, fel Cymraes, mae’r broses yn un fwy dyrys fyth. Saif Cymru yn enghraifft benigamp o genedl unigryw nad yw’n dilyn yr un patrwm â chenhedloedd eraill, yn bennaf oherwydd ei diffyg annibyniaeth yn wleidyddol. Ysywaeth, er gwaethaf ei hymlyniad cyfansoddiadol at Brydain, ni pheidiodd â bod yn genedl mewn ystyron eraill megis iaith a diwylliant ar wahân. Rwyf yn ystyried fy hun yn aelod o genedl leiafrifol yn ei hawl ei hun, ond eto rydym wedi ein clymu i Brydain ar sawl lefel. Rwyf felly yn Gymraes o ran fy nghenedligrwydd ar lefel bersonol, ond yn cael fy ngorfodi i nodi fy statws swyddogol fel dinesydd Prydeinig.

Yn fy ymchwil, rydw i’n edrych ar ddeuoliaeth debyg yn y broses o greu hunaniaeth – sut yr oedd y Cymry, fel cenedl fechan o ymfudwyr yn ystod y 19eg ganrif, yn goroesi ar gyfandir mawr America. Ymdebygai i Brydain mewn nifer o ffyrdd – gwlad y ‘melting pot’ ble roedd hunaniaeth nifer yn boddi ym môr y cenhedloedd amrywiol a ymfudai i’r ‘baradwys bell.’ Ffynhonnell amheuthun i geisio ateb rhai o’r cwestiynau anoddaf am brofiadau’r Cymry yn America yw’r wasg gyfnodol. Mae’n datgelu myrdd o wybodaeth er mwyn cynnig atebion i gwestiynau sy’n procio’r meddwl, megis:  I ba raddau oedd hi’n bosib cadw cysylltiad â’r henwlad a mabwysiadu arferion yr Unol Daleithiau? Sut y bu’r wasg yn gyfrwng i gynnal Cymreictod cymunedau yn America yn y 19eg ganrif?

Dadleuodd yr ysgolheigion cynharaf fod ymdeimlad o genedligrwydd yn cael ei amgyffred fel rhywbeth cadarn a statig, greddf annelwig sydd wedi ei gorfodi arnom ers diwrnod ein genedigaeth.[3] Fel y datblygodd y maes, gwthiodd y gwrth-ddadleuon y ddamcaniaeth hon o’r neilltu, gan bwysleisio hunaniaeth fel proses sy’n parhau i esblygu a ffurfio dros gyfnod o amser, cynnyrch ffordd o fyw a strwythur cymdeithasol.[4] Er mai’r unigolyn, yn sylfaenol, sy’n ffurfio ymlyniad emosiynol â’i gydgenedl yn sgil sut mae’n ystyried ei hun a’i gredoau, tueddir fwyfwy i gydnabod hanfod cymdeithas yn y broses o greu perthynas rhwng unigolion a diwylliant y genedl:

“The nation for us is thus no longer a rigid thing, but a process of becoming, whose nature is governed by the conditions under which people struggle for their necessities of life and to maintain themselves.”[5]

Roedd rhannu profiadau cyffelyb a ffordd o fyw yn uno unigolion er mwyn creu cymdeithas Gymreig yn America a oedd yn frwdfrydig dros ffyniant ei chenedligrwydd:

“It is essential that the individual members are aware of the ties that link them together as a nation or a national community. The mutual awareness and affirmation of these ties, and identification with other members, is what gives individuals their national identity and generates the will to form a nation in the first instance, and then to hold it together. Without the will or desire on the part of the people to remain a nation, some shared characteristics are not sufficient to form a nation.”[6]

Mae’r elfen o ddymuniad ac ewyllys ar ran aelodau’r genedl, o’r herwydd, yn hanfodol i gadw ei gwerthoedd a’i thraddodiadau yn fyw.

Un o’r arloeswyr mwyaf dylanwadol ym maes archwilio hunaniaeth a chenedligrwydd yn y cyswllt hwn yw Benedict Anderson, a bwysleisiodd yr elfen ddychmygol wrth ddiffinio’r hunan fel aelod o genedl a chymdeithas neilltuol:

“It is imagined because the members of even the smallest nation will never know most of their fellow members, meet them, or even know of them, yet in the minds of each lives the image of their communion.”[7]

Mae’r ymdeimlad o hunaniaeth yn ddyfnach nag unrhyw ffin na chyfraith, ac mae’n gosod yr unigolyn o fewn strwythur gymdeithasol gref. Nid un elfen benodol sy’n creu cenedl, ond yn hytrach cyfuniad o ffactorau sy’n dibynnu i raddau helaeth ar amser ac amgylchiadau:

“A nation is a soul, a spiritual principle . . . A nation is a great solidarity . . .The existence of a nation is a plebiscite of every day, as the existence of the individual is a perpetual affirmation of life.”[8]

Felly, ysbryd y frawdoliaeth o aelodau’r genedl sy’n dyrchafu grŵp o bobl yn genedl, ac yn y teimlad sicr hwn o berthyn y daw ystyr i’w bodolaeth.[9] O’r herwydd, mae ffordd o fyw a phrofiadau’r unigolyn yn rhan o broses barhaus o ail-ddiffinio cenedligrwydd.

Roedd cymhellion yr ymfudwyr i godi pac yn deillio o galedi a llawer o wrthdaro yn hanes y 19eg ganrif. Profwyd tlodi mawr yn dilyn chwyddiant yn y boblogaeth, prinder tir yn sgil gormes y landlordiaid ynghyd â thalu degwm i eglwys Loegr. Dioddefai cymunedau ledled Cymru anawsterau megis tai gwael, diffyg maeth, prinder dillad, a gweithio oriau maith am gyflogau pitw. Yn fwy na hynny, deuai pla o afiechydon amrywiol i fygwth trigolion y trefi a’r pentrefi, fel canlyniad i gyfleusterau gwael  ar gyfer y gweithwyr.

Cyfrannodd yr holl ffactorau hyn tuag at feithrin anfodlonrwydd dybryd gydag amodau byw ymhlith y Cymry yn y 19eg ganrif. Yn nannedd y ddrycin economaidd ac ansefydlogrwydd mawr, ynghyd â chyflwr cymdeithasol y genedl, nid yw’n syndod felly i nifer sylweddol o Gymry geisio lloches yn America a gwledydd eraill ledled y byd. Penderfynodd nifer ohonynt ddianc o grafangau caledi ac amgylchiadau anffafriol eu bywoliaeth yn eu mamwlad, a mentro i flasu cysuron gwledydd eraill mewn ymgais i wella’u byd.

Erbyn 1850, a’r don gyntaf o ymfudo wedi cyrraedd y lan a magu gwreiddiau, datgela’r cyfrifiad Americanaidd fod 29,868 o Gymry yn byw yn yr Unol Daleithiau. Er mai nifer pitw o Gymry a droediodd y tir mawr o’i gymharu â chenhedloedd eraill Ewrop a gollodd filiynau o’u poblogaeth, ni ellir gwadu eu holion ar y cyfandir yn y cyfnod:

“ . . . despite conquest, occupation, political amalgamation, and the great pressure of Anglicization, they remained loyal to their own language and distinctive culture throughout the centuries, and when members of this group began to emigrate to America, they came as another distinctive European ethnic group to add to the heterogenous make-up of the American people.”[10]

Er gwaethaf eu niferoedd lleiafrifol, roeddent yn genedl i’w hedmygu oherwydd eu balchder yn eu Cymreictod a’r angerdd i’w gadw’n fyw mewn gwlad estron:

“ . . .they came over quietly, modestly, willing to accept what opportunities the new environment might have to offer. Yet they were rightfully proud of their own peculiar past and ever conscious of their own cultural achievements.”[11]

Roedd eu profiad o ymfudo yn gyfuniad o hiraeth dwys am eu mamwlad yn sgil yr orfodaeth economaidd i geisio byd gwell ar y naill law. Ar y llaw arall, ceid ysbryd mentrus yn eu plith, a nifer yn dyheu i flasu anturiaethau’r  wlad newydd, ac yn cydymffurfio â’r amgylchiadau diarth yn bur gyflym.

Serch hynny, roedd nifer helaeth yn frwd dros gynnal a chadw eu Cymreictod a’u clymau gyda’r hen wlad, er eu bod ar dir estron:

“Whether you stayed in your community or emigrated to another, you remained ineluctably, organically, a member of the community of your birth and were forever stamped by it. A nation, in other words, was first and foremost a community of common descent.”[12]

Ymhell o’r famwlad a’i hanes hirhoedlog, felly, roedd yn rhaid dibynnu ar ffyrdd amgen i ddiffinio’r genedl yng nghanol pair o genhedloedd eraill. Roedd cynnal hunaniaeth yn hollbwysig i gyfran o’r trigolion yn sefydliadau Cymreig America, ac roeddent yn ymwybodol iawn o’r arwahanrwydd hil ac iaith oddi wrth y diwylliant Seisnig hollbresennol. Mae Gellner (1983) yn diffinio cenedligrwydd fel “product of deliberate construction,” ac yn sicr, roedd rheidrwydd ar Gymry America ddyfeisio ffyrdd i gynnal eu hunaniaeth arbennig, a hynny heb diriogaeth i’w hatgoffa o’u hetifeddiaeth.

Er bod y rhan fwyaf o’r treflannau yn gymharol fychan, yn cynnwys llai na 2000 o drigolion, roeddent yn frwd ac yn weithgar dros gadw gwerthoedd yr hen wlad. Ymdrechwyd yn galed i ffurfio cymdeithasau amrywiol, ac roedd Dydd Gŵyl Dewi yn flynyddol yn darparu cyfle i ddathlu a chofio etifeddiaeth y famwlad:

“Significant movements in the future were to strengthen this cultural nationalism, prevent the Welsh from becoming Anglicized, and account for their arrival in America as a distinctive self-conscious ethnic group far different from their British neighbours.”[13]

Roedd y cymdeithasau hyn yn fodd i drafod yr hen ffordd o fyw a chadw cysylltiad gyda llinyn bogail y famwlad. Gwelwyd rhai yn daer dros lynu at iaith a thraddodiadau Cymru, ac i raddau helaeth, plannwyd y diwylliant Cymreig yn ddwfn yn y pridd tramor:

“The Welsh transplanted their institutions and their cultural activities to America, and religion was of paramount importance, as it had been in the homeland.”[14]

Y capeli oedd conglfaen y diwylliant Cymreig, ac yn aml iawn, adeiladwyd capel yn fuan iawn ar ôl ymsefydlu, a ddengys eu hymroddiad nodedig i grefydd ac iaith.

Roed yr iaith Gymraeg hefyd yn gweithredu fel llinyn cyswllt rhwng pobl, yn atgyfnerthu’r berthynas gyda’r genedl a’i diwylliant. O’r herwydd, fe’i hystyrir yn un o brif nodweddion cenedligrwydd:

“an essential ethnic boundary, defining element of national identity.”[15]

Cryfheir yr ymlyniad seicolegol at genedl drwy fynegiant iaith fel cyfrwng cyfathrebu canolog, hyd yn oed yn rhan o enaid y genedl:

“….a soul, a spiritual principle……..the mind of each people is in the closest connection with its language.”[16]

Unwaith eto, er mai iaith leiafrifol ydyw’r Gymraeg, mae’n un o brif nodweddion cenedligrwydd i sawl aelod o’r genedl, ac yn fynegiant cadarn o Gymreictod.

Cyfrwng pwysig i greu rhwydwaith rhwng unigolion a oedd yn hanu o’r un genedl yw’r wasg brint. Wrth i awduron a golygyddion fwydo meddyliau preifat unigolion, roedd darllen yr un deunydd yn creu cysylltiad rhwng pobl ac yn darparu mynediad i rwydwaith anweledig sy’n bodoli yn nychymyg y darllenwyr. O’r herwydd, mae’r ddefod o ddarllen papur newydd fel “cultural construct” yn cysylltu ac yn cynrychioli disgwyliadau nifer o bobl mewn cymdeithas ddychmygedig, gan weithredu fel dolen gyswllt werthfawr rhyngddynt.[17]

“Yet each communicant is well aware that the ceremony he performs is being replicated simultaneously by thousands of others of whose existence he is confident, yet of whose identity he has not the slightest notion.”[18]

Honna Anderson fod papurau newydd a’u swyddogaeth yn y gymdeithas yn ychwanegu at y sicrwydd o genedligrwydd ar lefel seicolegol, “confidence of community in anonymity.”

Fel mynegiant o gymeriad cenedl, mae’r diwylliant print felly yn rhoi sefydlogrwydd a chadernid i’r ymdeimlad o genedl, er mai dychmygol ydyw’r rhwydwaith gymdeithasol. Yn fwy na hynny, dadleua rhai ysgolheigion na all cenhedloedd fodoli’n effeithiol heb gyfryngau cyfathrebu:

“What holds nations together are beliefs . . . but these beliefs cannot be transmitted except through cultural artefacts which are available to everyone who belongs – books, newspapers, pamphlets . . . So nations cannot exist unless there are available the means of communication to make such collective imagining feasible.”[19]

Mae’r wasg, felly,  yn cynrychioli proses naturiol o greu hunaniaeth. Nid oes angen i ddarllenwyr papurau newydd gyfathrebu wyneb yn wyneb, ac o’r herwydd, yr elfen haniaethol hon sy’n pontio’r profiad â ffordd o fyw weladwy.

Cyn dyfodiad cyfryngau eraill mwy grymus fel y teledu a’r we yn yr oes fodern, gweithredai papurau newydd fel symbolau allweddol i ddarparu gwybodaeth a chyflawni swyddogaeth fel fforwm drafod yn y cyfnod i Gymry America. Gan nad oedd cyfryngau cyfathrebu niferus yn y ganrif honno, roedd y wasg yn anhepgor drwy sicrhau cysylltiad rhwng aelodau’r genedl wasgaredig yn America. Roedd y cylchgronau yn cynnwys deunydd crefyddol, barddoniaeth, addysg gelfyddydol a gwyddonol, newyddion gwleidyddol, newyddion o Brydain, America a Chymru. Roedd y newyddion am Gymry America yn eu clymu ynghyd yn eu gwlad newydd, a newyddion o Gymru yn caniatáu iddynt gadw cysylltiad â’r hen wlad:

The involvement they gave people in the affairs of the nation helped to strengthen the ties of the individuals to their nation.”[20]

Rhoddai newyddion Americanaidd hefyd gymorth iddynt ddygymod ag amgylchiadau’r wlad newydd.

Wrth i’r wasg gyfnodol gyflawni dyletswydd gymdeithasol a diwylliannol yn y gymuned gydag ymdeimlad o berthyn, pylu oedd arwyddocâd tiriogaeth neilltuol i hunaniaeth y genedl. Ni ellir gorbwysleisio ei swyddogaeth fel mynegiant o hunaniaeth Gymreig ymhlith y genedl fechan a laniodd ar gyfandir enfawr:

“Within a short time after the coming of the Welsh to America in significant numbers, ambitious individuals among them began to issue newspapers and periodicals in the Welsh language to cater to the literary, social, and religious needs of their fellow immigrants. When one considers the paucity of their numbers in comparison to other ethnic groups that emigrated to America and their rather wide dispersion geographically, the record of the Welsh in the field of journalism is rather remarkable and indicative of the tremendously important hold which their native tongue had upon them.”[21]

Roedd y wasg yn fodd i blannu hadau cenedligrwydd ar dir estron, gan nyddu rhwydwaith anweledig o drigolion Cymreig yng nghanol môr aml-ddiwylliannol America:

“ . . . the deixis of homeland is embedded in the very fabric of the newspapers. Beyond conscious awareness, like the hum of distant traffic, this deixis of little words makes the world of nations familiar, even homely.”[22]

Seiliwyd profiadau’r ymfudwyr yn gadarn ar gynnal eu Cymreictod drwy gyfrwng plethiad o nodweddion crefyddol, ieithyddol a diwylliannol, a atgyfnerthwyd gan y wasg fel cyfrwng cyfathrebu.

Yn 2009, bûm yn astudio ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau am semester, a dysgais lawer am y profiad o fyw mewn diaspora. Er nad oeddwn yno am gyfnod hir medrwn weld sut yr oedd disgynyddion i’r ymfudwyr Cymreig yn cadw eu cenedligrwydd drwy gynnal cyfarfodydd, eisteddfodau a chymanfaoedd canu. Roedd y ddeuoliaeth yn eu hunaniaeth yn parhau. America oedd eu gwlad enedigol, ond roeddent hefyd yn falch o ddal gafael ar eu gwreiddiau Cymreig.

Dysgais lawer hefyd am fy hunaniaeth i’n bersonol a sut mae’n esblygu dros gyfnod. Tra bo crefydd, iaith a diwylliant yn gonglfeini cenedligrwydd y Cymry yn y 19eg ganrif, mae’r pwyslais heddiw yn symud fwyfwy tuag at annibyniaeth gwleidyddol yn sgil sefydlu Llywodraeth Cymru. Mae’r profiad o archwilio hunaniaeth yn parhau o hyd felly.

[1] Kohn, Hans (1955) Nationalism: its meaning and history. D. Van Nostrand: London. t.9.

[2] Bauer, O (1996) ‘The Nation,’ in (ed) Balakrishnan, G, Mapping the Nation. Verso: London, t.41.

[3] Joseph, J (2004) Language and Identity. Palgrave & Macmillan: Hampshire.

[4] Smith, Anthony (1999) Myths and Memories of the Nation. Oxford University Press, t.175.

[5] Bauer, O (1996) ‘The Nation,’ in (ed) Balakrishnan, G, Mapping the Nation. Verso: London, t.56.

[6] Baycroft, Timothy (1998) Nationalism in Europe, 1789-1945. Cambridge University Press, t.3.

[7] Anderson, Benedict (1983) Imagined Communities: Reflections on the origin and spread of nationalism. Verso: London.

[8] Araith Renan, dyfyniad o Kohn, Hans (1955) Nationalism: its meaning and history. D. Van Nostrand: London.

[9] Llobera, Joseph (2004) Foundations of National Identity: From Catalonia to Europe. Berghann: Oxford, t.5.

[10] Hartmann, Edward (1967) Americans from Wales. Christopher Publishing House: Boston, US, t.9.

[11] Hartmann, Edward (1967) Americans from Wales. Christopher Publishing House: Boston, US, t.9.

[12] Smith, Anthony (1991) National Identity. Penguin: London, t.9.

[13] Hartmann, Edward (1967) Americans from Wales. Christopher Publishing House: Boston, US, t.31.

[14] Evans, Gareth D (1989) A History of Wales, 1815-1906. University of Wales Press: Cardiff, t.63.

[15] Llobera, Foundations of National Identity.

[16] Araith Renan, dyfyniad o Kohn, Hans (1955) Nationalism: its meaning and history. D. Van Nostrand: London.

[17] Benedict Anderson, Imagined Communities, t.26 & 33.

[18] Benedict Anderson, Imagined Communities, t.35.

[19] Miller, David (1995) On Nationality. Clarendon Press: Oxford, t.32.

[20] Hastings, Nationalism in Europe, t.35.

[21] Hartmann, Edward (1967) Americans from Wales. Christopher Publishing House: Boston, US, t.127.

[22] Billig, M (1995) Banal Nationalism. Sage: London, t.94.

Mae Dr Rhiannon Heledd Williams yn uwch ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgrifennodd ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar y wasg Gymraeg yn America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Treuliodd gyfnod hefyd yn astudio ym Mhrifysgol Harvard. Mi fydd ei chyfrol ‘Cyfaill pwy o’r hen wlad?’ Y wasg Gymraeg yn America 1838-65,’  yn ymddangos yn 2017.

Advertisements


Categories: Politics

%d bloggers like this: