Llanw a Thrai

Gan Eirlys Roberts (Pugh Owen gynt).

Rhyw fin nos yn y flwyddyn 1890 roedd dau fwynwr, ar eu ffordd adref i Lanfachreth, yn cerdded llwybr uwch Cwm Mynach. Roedden nhw wedi treulio’r dydd yn chwilio am aur ar y Garn. Digwyddodd un ohonynt daro ei lygad ar becyn yng nghlawdd cerrig y llwybr a dyna gydio ynddo a’i ddi-becynnu. Gwelsant mai rhyw lestri digon di-raen oedd ynddo. Wedi peth ystyried dyna benderfynu mynd â nhw i’w dangos i rywun a allai awgrymu beth oedden nhw.

O’u glanhau gwelwyd eu bod yn llestri arian hardd iawn, wedi eu hysgythru yn gywrain. Roedd y mwynwyr wedi dod o hyd i drysor, llestri cymun Abaty Cymer a berthynai i’r drydedd ganrif ar ddeg. Tybiwyd fod un o’r myneich wedi cuddio’r trysor cyn i wŷr Harri’r VIII gael gafael arnyn nhw yn ystod helynt cau’r mynachlogydd. Roedden nhw wedi bod ynghudd yn y clawdd cerrig am bedwar can mlynedd ond roedd tywydd garw wedi chwalu peth ar y clawdd dros y blynyddoedd a’u datgelu. Gwelais y llestri ddiwethaf mewn cas gwydr yn arddangosfa ‘Gwreiddiau’ yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Deallaf y bydd yr arddangosfa honno i’w gweld bellach yn Sain Ffagan, pan agorir yr orielau newydd yno.

Hyd y gwn i ni lwyddodd y mwynwyr hynny i ddarganfod aur yn ogystal ag arian y diwrnod hwnnw. Ond roedd digon o dystiolaeth fod yna aur yng nghreigiau Meirionnydd erbyn y flwyddyn 1890. Tynnwyd sylw am y tro cyntaf un at y mwyn gwerthfawr yn 1843.  Adnabu peiriannydd stribyn gloyw yn y mwd pan oedd mwynwyr gwaith Cwm-heisian yn trafod plwm. Nid oedd sôn hyd yma am aur California nag Awstralia ond, er bod y peiriannydd, Arthur Dean, wedi tynnu sylw at ei ddarganfyddiad a honni fod gwythiennau o aur ym mynyddoedd Gogledd Cymru, ni thybiwyd fod diben cloddio.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach daeth twymyn yr aur i Brydain. Buddsoddwyd cryn dipyn o arian mewn cwmnïau ac fe gafwyd peth aur o weithfeydd Dolfrwynog, Prince of Wales a’r Clogau yn Nyffryn Mawddach.

Erbyn 1861 roedd y Clogau yn canolbwyntio ar yr aur yn hytrach na’r copr. Ym Mehefin 1862 cynhyrchwyd 320 owns o fewn pythefnos, cyfanswm oedd bryd hynny yn werth £1,200. Roedd hyn yn ddigon i ddenu diddordeb buddsoddwyr a dyma gychwyn cyfnod twymyn yr aur ym Meirionnydd. Roedd cyfranddaliad yng ngwaith Y Clogau yn werth £40 a chyflog mwynwr yn £1 yr wythnos! Ond ni wireddwyd y freuddwyd fawr. Fe gaewyd y gwaith yn 1870. Ail-gychwynwyd cloddio gyda pherchnogion newydd yn 1874 a newid dwylo eto yn 1888 ond er i’r ddau gwmni wario cryn dipyn o arian ar beiriannau ac ar gynlluniau i gael gwared â’r dŵr o’r lefelau roedd y gwaith ar werth eto yn fuan.

Fodd bynnag, yn 1888 darganfuwyd gwythïen gyfoethog yng ngwaith Gwynfynydd oedd dan reolaeth William Pritchard Morgan, gŵr fu’n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Ferthyr Tudful cyn i Keir Hardie gipio’r sedd i Lafur. Cyflwynodd ffon aur i’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhodd i arweinydd gorau’r corau ond effaith hynny fu corddi’r cythraul canu.

Gofalodd Pritchard Morgan ennill ffydd buddsoddwyr trwy gyflogi dau blismon i warchod y safle yng Ngwynfynydd a gosod drws carchar Dolgellau ar ei storfa. Cyflogai 200 o fwynwyr a nifer o ddynion eraill i weithio’r felin.  Yn ystod y cyfnod mwyaf llewyrchus cyflogid 500 o weithwyr. Roedd rhai yn lletya ar y ffermydd ac yn helpu gyda goruchwylion y fferm wedi noswylio o’r gwaith yn dâl am eu llety. Ym mhentref Llanelltyd roedd cryn dyrru i’r dafarn. Ond tyrrid i’r capeli hefyd. Cofiai fy mam gyfnod pan oedd Capel Peniel dan ei sang adeg Diwygiad 1904.

Byddai mwynwyr Dolgellau yn cwrdd ar y bont am 3 o’r gloch fore Llun, pob un yn cario’i becyn bwyd am yr wythnos a’i offer gwaith ac yn cerdded yr wyth milltir a hanner, gan aros am seibiant yn Nhy’n y Groes a Thyddyn Gwladys a chyrraedd y gwaith am 6.  Arhosent yn y barics am yr wythnos gyda chyfle i brynu mwy o fwyd pan ddeuai merlen a thrap siop groser o Ddolgellau heibio ganol yr wythnos. At hynny yn ôl pob hanes y prydau arbennig oedd cwningod. Arferent adrodd rhigwm yn diolch i’r Arglwydd am ddarparu’r cyflenwad, rhai tew a thenau, hen ac iau, gwydn a brau.

Daeth Americanwyr i weithio yn y gwaith ymhlith dieithriaid eraill.

Honnai’r Cymry mai i’r gweithwyr lleol roedd y creigiau’n datgelu eu cyfrinach rwyddaf. ‘Nid yw’r creigiau yn deall Saesneg’ oedd eu haeriad, ond dyma ‘oes aur’ gwaith Gwynfynydd. Datblygiad braidd yn eironig oedd croesawu’r Americanwyr gan mai hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd cyfnod yr ymfudo mawr o Feirionnydd. Roedd Crynwyr yr ardal wedi ymsefydlu ym Mhensylfania ddwy ganrif ynghynt gan ffoi rhag erledigaeth ond tlodi a gormes meistri tir oedd y gelyn erbyn hyn.

Roedd James Pugh yn gweithio yn y Clogau ac yn canlyn merch o’r enw Janet Hughes o Ddyffryn Ardudwy. Penderfynodd ei rhieni hi ymfudo i’r Unol Daleithiau a Janet gyda nhw. Gan na allai fforddio prynu tocyn gweithiodd James ar y llong i dalu pris y fordaith. I841 oedd y flwyddyn. Wedi cyrraedd Racine, Wisconsin yng ngwanwyn 1842 priodwyd y ddau. Dyna’r briodas Gymraeg gyntaf yn Racine.

Dair blynedd yn ddiweddarach ymunodd rhieni James a naw o’r un-ar-ddeg o blant â nhw yn yr Unol Daleithiau. Mae cofnod o hanes James a Janet a’u disgynyddion yn Amgueddfa Racine. Ganwyd deuddeg o blant iddynt hwythau ond bu pedwar farw yn ifanc.  Yn ôl y cofnod llwyddodd James i sefydlu busnes glo a choed llewyrchus, menter fu’n fywoliaeth i dri o’i feibion. Tystir fod James yn aelod ffyddlon yn y capel Cymraeg ac yn flaenllaw yn y gymuned. Nodir ei fod yn perthyn i griw diffoddwyr tân, pob un ohonynt yn Gymro!

Arhosodd Robert ac Evan gartref yn Hafod-y-morfa, y ddau fab hynaf. Robert oedd taid fy nhaid. Aeth ei fab, William Pugh, i  ffermio Maes-y-garnedd yn denantiaid i sgweiar y Nannau ac yno y treuliodd fy nhaid ei flynyddoedd cynnar.

llun 1

Maes- y- garnedd

Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd tenant Maes-y-garnedd o’u blaen oedd fy hen daid ar ochr fy nhad, William Owen, a’i dad yntau o’i flaen. Roedd tri mab a merch o’r gainc yna o’r goeden achau hwythau wedi ymfudo o Lanfachreth i Batagonia cyn diwedd y ganrif gan ymsefydlu yn y Gaiman a Chwm Hyfryd.

Mae eu disgynyddion yn Y Wladfa heddiw a Chymraeg Meironnydd yn dal ar eu gwefusau. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth fod yr iaith wedi goroesi ar aelwydydd y teulu yn Racine.

Yn amlwg, Dyffryn Mawddach yw bro fy hynafiaid. Wedi ei lencyndod ym Maes-y-garnedd priododd fy nhaid. Fy nain fu’n gofalu am Dŷ Capel Peniel ym mhentref Llanelltyd weddill ei hoes. Magodd  y ddau deulu o chwech o blant, fy mam yn eu plith. Gweithiai taid yn y gweithfeydd aur.

llun 2.jpg

Capel Peniel heddiw yn dŷ annedd.

 Er bod Llywelyn Fawr wedi rhoi caniatâd i’r myneich gloddio am fwynau ar eu tiroedd yn ei Siartr i’r Abaty nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt fanteisio ar hynny. Gŵr pur wahanol ei anian oedd Huw Nannau Hen a welodd gyfle i ymgyfoethogi pan ddaeth rhai o’u tiroedd i’w feddiant ar ôl y Diddymu.  Rhoddodd ganiatâd i ddau Sais dorri coed o Goed y Brenin i gyflenwi eu gwaith haearn.  Pan ddaeth ei dor-cyfraith i’r amlwg yn 1604 fe gafodd ddirwy drom a’i garcharu am ddwy flynedd. Dyna ddechrau’r rhaib. Dros y blynyddoedd datblygwyd cymaint â 70 o weithfeydd yn y dyffryn yn cynhyrchu gwahanol fwynau, — plwm, manganês, sinc a chopr.

Map

  Cyn dyddiau’r rheilffordd cludid y cynnyrch i farchnadoedd ar y llongau bach ar y Fawddach i borthladd yr Abermaw. Mae’r llanw yn cyrraedd hyd hen bont Llanelltyd.

llun 3.png

 Hen bont Llanelltyd yn dyddio o’r bymthegfed ganrif

 Allforid coed a rhisgl, blawd, caws a menyn o laethdy’r Hengwrt, cigoedd, mêl, gwaith turniwr, crwyn, brethyn a gwlân yn ogystal â’r mwynau.  Roedd cyfanswm gwerth y nwyddau a allforiwyd yn 1800 yn £225,000. Mewnforid glo o’r De, calch i’r tir, dodrefn, canhwyllau a sebon, gwydr ac olew a bwydydd fel gwenith, te a choffi, siwgwr a thriog, penwaig a halen a gwin. Deuai certiau i nôl y nwyddau o Lanfachreth, Mallwyd, Rhydymain a’r Bala a Thalyllyn.

Ar dir Maes-y-garnedd roedd iard adeiladu llongau hefyd ar un adeg. Roedd masnach y llongau ar ei anterth pan oedd fy hen, hen daid ar ochr fy nhad, William Owen, ym Maes-y-garnedd. Yno yr ymgartrefodd ei fab yntau, Willam arall. Roedd rhent y fferm ynghyd â thair arall o ffermydd teulu’r Nannau, Maes Mawr, Morfa’r Wialen a Phomprengarreg, yn £71.10 swllt y flwyddyn. Roedd yn swm sylweddol. Yn ôl llyfr cownt y stad ar y pryd pris pymtheg ceffyl ac wyth buwch yn fwyd i gŵn hela’r stad oedd £5.11 swllt. A dyma’r adeg pan oedd glo i ysgol am flwyddyn yn ddim ond £1 ond mae’n siŵ’r mai glo cwlwm oedd hwn, nid y glo gorau a werthid i’r ‘byddigions’.  Maint stad teulu’r Nannau bryd hynny oedd 24,000 o aceri. Roedd fy nheidiau yn fasnachwyr blawd ac yn elwa ar fasnach y glannau. Âent i ffeiriau Llŷn i werthu’r blawd ac o Lŷn y cafodd y ddau eu gwragedd.

llun 4

 

Talcen storws Maes-y-Garnedd gyda’r dyddiad 1832 wedi ei lunio gyda gwaelodion gwydr poteli gwin.

 Prynodd Pritchard Morgan waith Gwynfynydd yn 1914 am £623.94 ond ni chafodd gystal llwyddiant y tro hwn ac fe’i gwerthodd yn 1916. Y gred yn lleol oedd fod Pritchard Morgan wedi ennill ffortiwn ddwywaith yng Ngwynfynydd ond iddo golli ‘r cyfan yn China. Roedd Morgan hefyd wedi cloddio ym Moel Croesau rhwng 1910 ac 1915 ac oddi yno y cafodd yr aur i lunio regalia ar gyfer seremoni arwisgo Tywysog Cymru yn 1911.

Daliwyd ati i gloddio am aur yn y Clogau hyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n hysbys ddigon fod aur y Clogau ym modrwyau priodas y teulu brenhinol ers 1923.

Digon cyndyn fu’r creigiau o ildio’u cyfoeth. Er bod peth aur wedi ei ddargnfod mewn sawl gwaith yn y dyffryn dim ond Y Clogau a Gwynfynydd a gynhyrchodd gyfanswm sylweddol. Yn Y Clogau fel y nodir gan Dyfed Elis – Gruffydd yn ei bennod ar ‘Gwynfynydd – Maes Aur Dolgellau’ yn ei gyfrol 100 o Olygfeydd Hynod Cymru: ‘rhwng 1860 ac 1869 cynhyrchwyd tua 13,900 owns o aur – gwerth dros  £10 miliwn yn ôl pris aur ar farchnad y byd yn Chwefror 2014!’ Rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach yng Ngwynfynydd hyd tua 1915 ‘cynhyrchwyd bron 41,000 owns — gwerth dros £30 miliwn heddiw!’

Pan ddaeth yn amlwg nad oedd gwaith bellach i fwynwyr y Dyffryn aeth fy nhaid i’r De i weithio yn y pwll glo. Roedd ei ferch ieuenga’ yn fechan iawn ar y pryd. Fe’i ganwyd yn 1913. Dyma’i hatgofion hi am y cyfnod hwnnw,

“Dim ond unwaith y flwyddyn y byddai ‘nhad yn cael dod adre’ am bythefnos o wyliau. Pan gyrhaeddai mi fyddwn i’n swil iawn, yn cuddio tu ôl i mam ac yn gwrthod siarad ag o. Ond cyn pen diwrnod neu ddau mi fyddwn yn ei ganlyn fel ei gysgod, ac yn ffrindiau mwya’ hefo fo. Byddwn ar ei lin ac yn gwrando ar bob dim fyddai o’n ei ddweud o’i hanes yn y Sowth. Yr oedd wrth ei fodd yno ac yn hoff iawn o’r bobl. Byddai’n eu dynwared yn siarad a dweud,

‘Bachan piwr yw e’ a phethau felly. Fe gafodd groeso mawr ganddynt, yn enwedig yng nghapel Pisgah, Penygraig.

Pan fyddai’n rhaid iddo gychwyn yn ôl mi fyddwn yn gafael yn dynn am un goes iddo ac yn dweud, ‘Wel, chaiff y goes yma ddim mynd beth bynnag’! ond ymhell cyn i mi ddeffro yn y bore byddai nhad wedi cychwyn cerdded i ddal y trên cynta’ o Ddolgellau ac yna  i lawr i grombil y ddaear

Gwelodd y Dyffryn felly gyfnod o lanw yn economaidd, yn gymdeithasol a chrefyddol ond daeth y trai a chafodd yr aur lonydd i guddio ym mhlygion y graig.  Yn ôl un hen fwynwr,’Nid yw byth yn harddach nag y mae yn ei gynefin ei hun’.

Erbyn heddiw rhyw atodiad i dref Dolgellau yw pentref Llanelltyd, y drafnidiaeth yn gwibio heibio iddo ar y ffordd osgoi a Chapel Peniel yn dŷ annedd ond i mi nid oes amgenach man ar wyneb daear. Dyma fy mro, bro atgofion, y fro y bu Hywel ab Owain Gwynedd yn canu ei chlodydd yn y ddeuddegfed ganrif —

 

‘ Caraf ei morfa a’i mynyddedd,

A’i chaer ger ei choed a’i chain diredd,

A’i dolydd a’i dwfr a’i dyffrynnedd

A’i gwylain gwynion …..

Caraf yr eos ar wyrios wŷdd

Yng Nghymer deuddyfr, dyffryn iolydd.’

Mae Cadair Idris fawreddog a’r Rhiniogydd yn gwarchod, y morfa, y dolydd a’r Fawddach yn hudolus hardd, y llwybrau cyfrin yn denu a thangnef noddfa yng nghynefin y Myneich Gwynion.

Ffynonellau

‘Gweithfeydd Aur Meirionnydd’ gan G.V. Hall

Mae sawl fersiwn. Cyhoeddwyd un cyflawn yn 1975 a fersiynau byrrach yn ddiweddarach, un Cymraeg ac un Saesneg. Y fersiwn byr, Saesneg, sydd yn fy meddiant i.

A Tale of Two Rivers: Mawddach a Dyfi gan Alun John Richards

‘Atlas Meirionnydd’, golygydd Geraint Bowen

Cefais sawl ffaith a’r map drwy garedigrwydd Archifdy Gwynedd.

Ganwyd Eirlys Roberts yn Llanelltyd, Meirionnydd. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Abersoch, Ysgol Sir Botwnnog a Choleg y Brifysgol Bangor. Bu’n dysgu Cymraeg (yn bennaf) mewn nifer o ysgolion uwchradd a magu pump o blant, y naill neu’r llall rhwng cromfachau!.Yn ystod blynyddoedd olaf ei gyrfa bu’n golygu, cyfieithu a chynhyrchu gwaith gwreiddiol yn Y Ganolfan Astudiaethau Addysg  yn Aberystwyth.

Advertisements


Categories: Cymraeg

Tags:

%d bloggers like this: