Dysgu’r Gymraeg yn Siapan

 

japan-flag-1332902_640

Darlithydd Prifysgol, o’r enw Prifysgol Daito Bunka, yn Tokyo ydw i. Rydw i’n gweithio yn Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Americaneg yma. Yn ein rhaglen addysg mae cwrs o’r enw “Cymru: ei diwylliant a’i hiaith”, sydd yn parhau am flwyddyn. Efallai fod pobl yn pwslo pam mae’r fath gwrs mewn adran llenyddiaeth Saesneg ac Americaneg. Mae angen esbonio’r cefndir i ddeall yr hyn sy’n arbennig i addysg Saesneg yn Siapan.

Yn gyntaf, does dim gwahaniaeth eglur yn Siapanaeg rhwng “Saesneg/Seisnig” a “Phrydeinig”. Felly pan rydym ni’n sôn am bethau “Saesneg”, gallai fod am ddiwylliant Lloegr neu am ddiwylliant Prydain i gyd. Yn ail, mewn adran “llenyddiaeth” iaith dramor, nid ydym ni ddim yn dysgu llenyddiaeth yn unig ond, hefyd, iaith a diwylliant y wlad y mae’r llenyddiaeth yn perthyn iddi. Felly yn ein hadran mae cyrsiau “ieithyddiaeth Saesneg”, “diwylliant Prydeinig” “diwylliant America”, heblaw am “llenyddiaeth Saesneg” a “llenyddiaeth Americaneg”. Sefydlwyd cwrs “Cymru: ei Diwylliant a’i Hiaith” er mwyn i’n myfyrwyr ddeall fod i ddiwylliant Prydain ddiwylliannau gwahanol, cenedlaethol.

Mae darlith mewn prifysgol yn Siapan yn parhau am 90 munud. Rydw i’n sôn am agwedd ddiwylliannol yn y 45 munud cyntaf, ac yn dysgu Cymraeg am y gweddill.

Ymysg y pynciau diwylliannol y bûm i’n sôn amdanynt mae’r canlynol:

“Pam mae draig goch ar wyrdd a gwyn, ar faner Cymru?”

“Hanes “Hen Wlad fy Nhadau”

“Beth yw “Eisteddfod”, ac arwyddocâd barddoniaeth yn niwylliant Cymru”

“y Ddeddf Uno: Pam mae mab brenin Lloegr yn dwyn y teitl “Prince of Wales”?

“Pwy yw Owain Glyndŵr”

“Pwy yw Dewi Sant?”

“Hanes y delyn a’r bardd yng Nghymru”

Does dim gwybodaeth cefndirol gan y mwyafrif o fyfyrwyr sydd yn dod i’r ddarlith, felly mae rhaid dechrau darlith gyda rhywbeth maen nhw’n ei wybod am Brydain gyfan. Er enghraifft, pan rydw i’n sôn am faner Cymru (y Ddraig Goch), bydda i’n dangos y faner Brydeinig, ac yn esbonio ei bod yn cynnwys symbolau Lloegr, yr Alban, ac Iweddon, ond nid Cymru, a pham; a dweud hefyd fod gan Gymru ei baner ei hun, y Ddraig Goch. Byddant yn synnu clywed bod y lliwiau gwyrdd a gwyn ar faner Cymru yn dod o gennin, a bod cennin yn elfen bwysig yn niwylliant Cymru. Rydyn ni’n bwyta cennin hefyd, ond ni allai cennin fod yn fwyd arbennig, heb sôn am symbol gwlad! Roedd y myfyrwyr yn mwynhau (rwy’n gobeithio) darlith am y delyn: wnes i wahodd telynwr Siapanaeg o’r enw Teramoto Keisuke, sydd yn canu’r delyn wrachiod a wnaeth ef ei hun. Ar ôl ei ddarlith, buom yn canu cerdd dant gyda’n gilydd.

Yn nghwrs yr iaith Gymraeg, maen nhw’n dysgu sut i ynganu yr wyddor, a geiriau, sut i gyfarch yn Gymraeg, sut i sôn am dywydd. Mae’n anodd iawn dysgu a deall treigladau, p’un ai fel athro ai fel myfyriwr. Rydw i’n sôn am y treiglad meddal yn unig, ac ni fentra i gyflwyno y treiglad trwynol! Ond heb sôn am y treiglad trwynol, mae’n anodd iawn dweud sut mae’r tywydd yn rhai lleoedd yng Nghymru, neu mae rhaid ifi gyfyngu fy hun i dywydd mewn lleoedd sydd yn dechrau gyda llafariad (fel Aberystwyth) neu gytsain sydd ddim yn treiglo (fel Llanbedr). Ym mis Ionawr 2015 fe wnaeth fy myfyrwyr fideo sydd yn cyflwyno diwylliannau Siapanaeg yn Gymraeg

(Isod yw’r URL i’r fideo)

Wrth gwrs, fe wnes i helpu i ysgrifennu’r testun Cymraeg (byddai’n rhy anodd iddynt) ond fe wnaethon nhw ymarfer yn ddygn er mwyn gallu ynganu a siarad Cymraeg yn hyderus o flaen y camera. Roedden nhw’n mwynhau’r profiad, gobeithio.

Beth yw arwyddocâd dysgu diwylliant ac iaith Cymru mewn prifysgol yn Siapan? Wel, mae Prydain yn un o’r gwledydd tramor mwyaf poblogaidd yn Siapan ac mae llawer o bobl yma yn credu bod diwylliant “Seisnig” (h.y. Prydeinig) a’r iaith Saesneg yn perthyn i ddosbarth uchel a phwysig Yma mae llawer o bobl yn gwisgo crys gyda baner Prydain (“Union Jack”) arno, a charu yfed te yn y ffordd Brydeinig. Ond mae’n bwysig iawn, rwy’n meddwl, inni ddeall mai gwlad amlochrog yw Prydain a bod y wlad wedi datblygu ar draul llawer o ddiwylliannau gwahanol. Mae’r mwyafrif o bobl yn Siapan (a gwledydd eraill hefyd, efallai) yn meddwl bod pawb yn siarad Saesneg, fel eu mamiaith, ym Mhrydain ond fe ddylen nhw ddeall fod rhai pobl yn siarad Saesneg fel ail iaith.

Byddai deall hyn yn ein harwain i ddeall ein gwlad ein hunain, sydd yn amlochrog hefyd, gyda hanes goresgyniad pobloedd eraill a’u diwylliannau.

Eleni fydd y drydedd waith i fi gynnal y cwrs. Yn anffodus dim ond deuddeg o fyfyrwyr sydd gennyf (fel arfer mae mwy na hanner cant). Ond mae llai o nifer o fyfywyr yn golygu fy mod yn gallu dysgu’r iaith yn fwy dwys eleni. Fe hoffwn i weld y myfyrwyr yn dod i ddeall diwylliant Cymru a siarad yr iaith Gymraeg yn hyderus. Efallai bydd cyfrifiad 2021 yn dangos rhai pobl sydd yn wreiddiol Siapanaeg sy’n medru’r Gymraeg yn rhugl fel ail iaith!

*Cliciwch unrhyw un o’r URL (Youtube) isod i weld cyflwyniad elfen ddiwylliant Siapan gan fyfyrwyr Prifysgol Daito Bunka (Ionawr 2015)

 

Mae Takeshi Koike yn ddarlithydd-cyswllt mewn ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Daito Bunka, Tokyo, Japan. Yn ogystal a dysgu Saesneg, mae ef hefyd yn dysgu Cymraeg a diwylliant Cymreig yn y Brifysgol ac mewn canolfan iaith. Ef hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas Astudiaethau Cymreig Siapan.

 

 

Advertisements


Categories: Cymraeg, International / Rhyngwladol

Tags: , , ,

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: