Aberystwyth, Bundeswehr, Afghanistan: Sgwrs gyda John Dyfed Loesche

Yn enedigol o Aberystywth, bu John Dyfed Loesche yn aelod o gatrawd barasiwt ym myddin yr Almaen sef y Bundeswehr. Bu hefyd am gyfnod yn Afghanistan yn gweithio fel newyddiadurwr. Bu’n sgwrsio gyda Dr Sulien Morgan.

c2a99691-c39b-45cb-ac43-6859040b2bfe

 Sulien Morgan: Cawsoch eich geni yn Aberystwyth, ar arfordir gorllewinol Cymru, felly lle da i ddechrau yw gofyn sut y mae rhywun a aned yng Nghymru yn cael ei hun mewn catrawd awyrfilwyr – Catrawd barasiwt – ym myddin yr Almaen – Y Bundeswehr

 John Dyfed Loesche: Do, ces i ’ngeni yng Nghymru, ond fy magu yn Hamburg gan mai Almaenwr oedd fy nhad.   Bryd hynny roedd  gorfodaeth filwrol mewn grym, a gwasanaeth milwrol yn orfodol.  Ond, mewn gwirionedd, roedd yna nifer o ddynion ifainc nad oedden nhw’n cael eu recriwtio mwyach; roedden nhw’n cael gwneud y dewis amgen, sef, cyflawni dyletswydd sifil gan nad oedd galw am fyddin broffesiynol fawr wedi diwedd y Rhyfel Oer.  Eto i gyd roedd y sustem yn dal i fodoli, a chanran o’r recriwtiaid yn cael eu drafftio i’r fyddin. Ymunais i â’r fyddin ar ôl gorffen fy Lefel-A.  I’r dydd hwn, nid yw’r drafft wedi ei ddiddymu’n ffurfiol ond, yn 2011, cafodd ei atal.  Does neb yn cael ei ddrafftio bellach oni bai fod yna bosibilrwydd real o ryfel eang.

 Sulien: Oedd yna rheswm penodol am ddewis y Gatrawd Barasiwt?  Mae’r awyrfilwyr, sef y paratrwpers, yn aml yn cael eu cyfrif fel rhai sydd ymysg y milwyr elite yn y rhan fwyaf o fyddinoedd: a oedd hyn yn apelio o gwbl – sef rhyw fath o awydd i hyfforddi gyda, a bod ymysg, y gorau o’r gorau fel petai?

John: Doedd consgriptiaid ddim yn cael dewis lle i fynd.  Gallech leisio barn ar ba gangen yr hoffech ymuno â hi (y Llynges, y Fyddin neu’r Awyrlu) a nodi’r hyn fyddech yn barod i’w wneud. Tra roeddwn yn yr ysgol bu rhaid i fi gael archwiliad meddygol a chorfforol a chymryd prawf ysgrifenedig.  Ar un o’r ffurflenni fe wnes i dicio’r bocs nesaf at y cwestiwn a holai a fyddwn i’n barod i ymuno â’r ‘paras’.  Fe wnes i ategu fy mharodwrwydd i ymuno â nhw mewn cyfweliad â gwas sifil.  Yr oedd cyfanswm fy mhrawf yn ‘T2’, a olygai y gallwn ymuno â phob uned, ar wahân i fataliwn y gwarchodlu ( y trueiniaid hynny sy’n gorfod sefyll mewn rhesi pan ddaw pwysigion o dramor ar ymweliad gwladwriaethol â’r Almaen).

Fel hyn y cefais fy nanfon i dref fach o’r enw Wildeshausen, yn Saxony Isaf, yn hydref 1999.  Yr oedd y ddau fis cyntaf wedi eu neilltuo ar gyfer ymarfer sylfaenol.  Dysgais saethu, sgrwbio esgidiau, glanhau drylliau, martsho mewn llinell, rhoi deunydd gwyrdd wrth fy helmed, palu ‘tyllau cadnoed’ a chodi pebyll.  Wedyn cefais fy symud i’m huned barhaol, ar yr un safle, sef cwmni mortar awyr-gyrchiol: ‘Luftlandemörserkompanie’ yn Almaeneg.  Fan hyn derbyniais hyfforddiant penodol ar sut i saethu mortars.  Yng ngwanwyn 2000 ces fy nanfon i Altenstadt, tre yn Bavaria, ynghyd â rhai o’m cymrodyr.  Fan hyn, bryd hynny, roedd pob un o’r ‘paras’ Almaenig yn cael ei hyfforddi i neidio allan o awyrennau.

Fe ymunais â’r ‘paras’ am antur. Nid oedd y ffaith iddynt gael eu hystryried yn un o’r goreuon yn fy niddori lawer.  Yr oeddwn yn cael fy nghyfrif yn dipyn o ‘freak’ oddi mewn i’m cylch o ffrindiau.  Roedd pawb, yn eu hiawn bwyll, yn ceisio osgoi mynd i’r fyddin a gwneud y gwasanaeth sifil amgen lle byddid yn cyflawni gweithredoedd da a chynorthwyo’r sâl a’r henoed mewn ysbytai a chartrefi ymddeol.  Roeddwn i yn saethu drylliau, gollwng rowndiau mortar, rhedeg drwy’r coed, gyrru o gwmpas mewn Jeeps a neidio allan o awyrennau.  Yn sicr, y mae eraill sy’n gwybod sut i ddefnyddio’u hamser mewn ffyrdd mwy cynhyrchiol.

 Sulien: A beth am aros ymlaen ar ôl cwblhau y tymor gorfodol o ddyletswydd? Wnaethoch chi erioed ystyried aros ymlaen yn y fyddin a chyflawni gwasanaeth gweithredol (active service) yn rhywle?

 John: Naddo, ddim mewn gwirionedd.  Roeddwn i wedi cael cyfran deg o antur, a gallwn i ddim gweld fy hunan yn aros ymlaen yn hirach, er y byddai’r gyflog wedi bod yn dda.  Â dweud y gwir, mae anturiaethau yn llawer llai anturus pan fo rhywun yn eich gorchymyn chi i gymryd rhan ynddyn nhw.  Roeddwn i’n casáu rhai agweddau ar fywyd yn y fyddin, fel gorfod dal y trên nôl i’r barracks ar ddyddiau Sul, ond dydw i ddim erioed wedi difaru treulio amser yn y fyddin.

Nôl bryd hynny doedd anfon milwyr i weithredu mewn gwledydd eraill, sef‘deployment’, ddim yn bwnc mawr yn y Bundeswehr.  Roedd hi’n ddyddiau cynnar yn hanes y cytuno i ddanfon milwyr Almaenig dramor: roedd nifer o bobl yn dal i deimlo’n gryf nad oedd unrhyw fusnes gan y fyddin Almaenig i gael ei danfon i wledydd eraill ar ôl y gyflafan epig y llwyddodd yr Almaenwyr ei chyflawni ar draws Ewrop.  Eto i gyd danfonwyd rhai lluoedd Almaenig, am y tro cyntaf ers yr ail rhyfel byd, i Kosovo.  Ond nid hyd goresgyniad Afghanistan y gwelwyd milwyr Almaenig yn cymryd rhan mewn rhyfel ‘iawn’ unwaith yn rhagor.  Roedd hyn, hyd yn oed, yn ddadleuol, ac nid hyd 2010 (!) y galwodd Gweinidog Amddiffyn yr Almaen, Karl-Theodor zu Gutenberg, y gwrthdaro wrth ei enw iawn – ‘rhyfel’.

 Sulien: Ar ol gadael y fyddin fe ddychwelsoch i Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol.  Odych chi’n credu, ar ôl eich profiad ym myddin yr Almaen, fod eich gogwydd a’ch credoau gwleidyddol wedi cael eu heffeithio o gwbl.  A ddylanwadodd y profiad ar eich agwedd at wrthdaro a rhyfel?

 John: Naddo.  Dydw i ddim yn credu bod fy safbwyntiau gwleidyddol wedi newid o gwbl.  Yr oeddwn yn dal yn argyhoeddedig iawn mai’r defnydd o rym, ymhob sefyllfa, oedd yr ateb gwaethaf posibl, oherwydd yn anaml iawn y mae e’n datrys unrhyw wrthdaro heb lwyddo i greu achos pellach o wrthdaro.  Ymladdwch tân â thân ac, yn y rhan fwyaf o achosion, fe fyddwch wedi creu un goelcerth enfawr.

Fe ddechreuodd Ail Ryfel Irac adeg fy amser yn astudio yn Aberystwyth, ym Mawrth 2003. Doeddwn i ddim yn credu bod rhyfel fel hyn yn bosibl.  Yr oedd yn glir fod y cyhuddiadau a wnaed yn erbyn Saddam Hussein, yr arfau byd-ddistrywiol honedig, ei gyswllt ag Al Qaeda, wedi eu ffugio.  Doedd dim achos cyfiawn dros ryfel.  Wrth gwrs, doedd Hussein ddim yn ddyn neis, ond nid oedd nifer o’r unbenaethiaid a gefnogwyd gan yr U.D adeg y Rhyfel Oer, yn neis ychwaith.  Yn eironig iawn roedd Saddam Hussein yn un ohonyn nhw.

Ces i fy siomi’n fawr, hefyd, fod Prif Weinidog Prydain ar y pryd, Tony Blair, wedi cefnogi’r ymgyrch.  Es i ar fws i rali enfawr yng nghanol Llundain i wrthdystio yn erbyn y tywallt gwaed hollol ddi-angen.  Dyna un o’r gwrthdystiadau mwyaf a welodd Llundain erioed.

Ni lwyddodd fy amser yn y fyddin i newid fy agwedd feirniadol.  Pan gefais i fy ngollwng o’r fyddin, fe ddywedodd arweinydd fy Mhlatŵn, Cadfridog Dosbarth Cyntaf, wrthyf ei fod fwy neu lai yn credu bod gennyf yr hyn yr oedd ei angen i wneud milwr da.  Ond yr oedd yn teimlo, ar adegau, fy mod yn tueddu i fod yn or-feirniadol.  Fe gymerais i hynny fel canmoliaeth.

 sar-howza

 Sulien: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe fuoch yn Afghanistan, nid fel milwr ond fel newyddiadurwr.  Sut ddigwyddodd hyn, a beth oedd y nod newyddiadurol penodol yr oeddech wedi gobeithio ei chyflawni drwy ymweld?

 John: Nôl yn yr Almaen, fe es i ymlaen i astudio newyddiaduraeth.  Roedd fy swydd iawn gyntaf ar ddesg dramor yr asiantaeth newyddiadurol Almaenig ‘dapd’ (sydd erbyn hyn wedi dod i ben) yn Frankfurt.  Fan honno treuliais y rhan fwyaf  o’m hamser yn cyfieithu copi newyddion Saesneg, o asiantaeth AP o’r U.D., i’r Almaeneg, ar gyfer ei ddosbarthu i allanfeydd cyfryngau Almaenig.  Wedi tua hanner blwyddyn gwyddwn fod rhaid i fi ddechrau ar rywbeth neu fe fyddwn wedi rhoi’r swydd i fyny.  Yr oeddwn yn dal o hyd i fod yn awyddus i anturio.

Yr oedd y peth hwnnw a wnaeth i fi dicio bocs ‘ymuno â’r paras’ ar y ffurflen yn fy ngyrru nawr i gysylltu â byddin yr Unol Daleithiau yn yr Almaen.  Er mod i’n dal yn argyhoeddedig mai ond yn anaml y ceid canlyniadau da o weithredu milwrol, ni allodd hynny fy atal rhag dyheu i fynd i weld drosof fy hunan beth a olygid, mewn gwirionedd, wrth ‘fynd i ryfel.’  A gwyddwn, ar sail fy mhrofiad yn y fyddin, beth fyddai’r hyn a wynebwn, o bosib.  Atebodd lluoedd yr U.D. yn yr Almaen fi, gan ddweud y gallwn ymuno ag un o’i brigadau ar ymarfer yn Bavaria: yn paratoi at fynd i Afghanistan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  Ymunais i, a ffotograffydd, â nhw am wythnos.  Yna, ym Medi 2011, ddeng mlynedd wedi’r digwyddiadau yn Efrog Newydd, aethom i ymuno â’r platŵn y buom gyda nhw’n ymarfer am dair wythnos yn nhalaith Paktika, yn ne-ddwyrain Afghanistan.  Roedd byw gyda’r milwyr yn Sar Howza, y ‘Combat Outpost,’ yn un o’r profiadau rhyfeddaf a gefais erioed.

 dweud y gwir dydw i ddim yn siwr a oedd gen i nod wirioneddol glir heblaw am gael profi rhywbeth eithafol.  Rhaid i fi gyfaddef bod newyddiaduraeth wedi bod i fi, yn rhannol, yn ffordd i gael fy hun i mewn i sefyllfaoedd anghyffredin, i brofi yn y cnawd yr hyn y mae eraill yn darllen amdano yn y newyddion.  Mae’n agwedd fympwyol sy’n sbarduno mwy o newyddiadurwyr nag sy’n fodlon cyfaddef.  Roedd yr hyn a’m hysgogodd i ymuno â’r ‘paras’ wedi fy nghael i fyrddio awyren i hedfan i Afghanistan.  Ac fe’m paratowyd at y profiad hyn gan fy amser yn y fyddin.  Efallai mai dyma’r ‘deployment’ yr oeddwn wedi tynnu’n ôl oddi wrtho un mlynedd ar ddeg ynghynt; ond gyda’r  bonws o gael gosod fy nhermau a’m hamodau fy hunan, heb neb i’m galw i drefn.

Darllenwch fwy am amser John Dyfed Loesche yn Afghanistan- frontlinefritz.com

Hyfforddiant y ‘paras’ Almaenig yn Altenstadt- youtube.com/watch

Advertisements


Categories: Cymraeg

Tags: , , , , ,

%d bloggers like this: