Fi a’r Gymraeg

Gan Dr Talat Chaudhri.

Rwy’n hanner Pwnjabi wedi fy ngeni yn Essex sy wedi ymgartrefi yn Aberystwyth ers dwy flynedd olaf y ganrif ddiwethaf, dyna yw dwy flynedd ar bymtheg ers imi ddod i wneud gradd meistr yn y celfyddydau yn Adran y Gymraeg yn sgîl gradd gyntaf mewn hanes. Pan aeth y myfyrwyr eraill o’m cwmpas yn Rhydychen i hel gyflogau uchel yn Llundain, deuthum innau i Aberystwyth i ddysgu Cymraeg ac i astudio’r ieithoedd Celtaidd a’u diwylliannau yn hytrach. Ni ddeallai neb ohonyn nhw pam, mae’n debyg, er gwydden nhw fod y pethau a’m gyrrai yn wahanol iawn i bopeth yn eu bywydau nhw. Fy mwriad oedd aros am flwyddyn, mynd i Lydaw i ddysgu’r Llydaweg, ac yna mynd i Gernyw efo’r holl wybodaeth hyn i weithio ar adfywiad y Gernyweg. Dysgais Lydaweg yn yr Hen Goleg yn hytrach – ac rwy’n dal yma!

Pam, felly? Dyna yw’r cwestiwn cyntaf o hyd. Ond, a bod yn onest, nid oes fawr o reswm da. Yn fy mebyd, daethem ni i Gymru, i Gernyw, neu i leoedd eraill yng ngorllewin Prydain fel arfer ar wyliau haf. Roedd nifer o lyfrau sy’n cyfeirio at Gymru, Cernyw a’i hieithoedd yn ddylanwad arnaf hefyd. Ond mae’n anodd iawn esbonio’n glir. Un diwrnod yn Llyfrgell Ganolog Southend-on-Sea, cefais hyd i lyfr am y Gernyweg, Cornish Simplified gan Caradar (A.S.D. Smith). Ymunais â mudiad adfywio’r Gernyweg. Euthum i Rydychen ac roeddwn mewn cariad am ysbaid fach â merch o Ruthun. Deuthum yn llysieuwr, dechreuais ddysgu’r Gymraeg, a dyna ni!

Ers hynny, bûm yn diwtor Cymraeg a Llydaweg, enillais ddoethuriaeth mewn ieitheg Gernyweg yn Adran y Gymraeg, gweithiais yn llyfrgelloedd y Brifysgol a thrwy hynny wedyn am dair blynedd i ffwrdd yn y gwyddorau gwybodaeth yng Nghaerfaddon. Ond dyma fi’n ôl yng Nghymru ac yn Aberystwyth eto. Fel y dywed llawer un am Aberystwyth, ar ôl aros yma am ddwy neu dair blynedd, mae’n anodd gadael am byth, a nid oes arnaf fawr awydd symud i ffwrdd. Dyma fy nghartref, a nid oes dim un arall imi hyd heddiw.

Rwyf yn awr yn gynghorydd tref dros Blaid Cymru yn cynrychioli Penparcau a Phorth-y-De. Mae gennyf fusnes gwybodaeth dechnoleg yn y dref. Rwy’n gobeithio gweithio eto yn yr Astudiaethau Celtaidd un diwrnod er bod swyddi’n eithaf prin, ac rwy’n dal i ymchwilio. Ond pwysicach byth na hyn oll, rwyf wedi dod yn rhan o’r dref a’r gymuned yn Aberystwyth, yn adnabod cannoedd o bobl yn y dref, os nad mwy, fel na allaf eu cyfrif bellach. Mae fy mam yn byw yn Sir Gaerfyrddin a hithau hefyd wedi dysgu’r Gymraeg, fel Saesnes nad oes arni hi unrhyw awydd mynd yn ôl at fro sy wedi newid yn llwyr ers ei phlentyndod yn y pum degau a’r chwe degau.

Y broblem fwyaf efo’r mewnlifiad yw bod rhan fwyaf y bobl sy’n symud i Gymru yn methu gweld unrhyw raid iddyn nhw ddysgu Cymraeg. Rwy’n ddig braidd am yr agwedd yma: os ewch chi i wlad, dysgwch chi iaith ei phobl, mor syml â hynny. Mae’n ampharchus fel arall. Pan ddaw pobl o wledydd tlotach, mae disgwyl iddyn nhw ddysgu’r Saesneg – nid y Gymraeg, hyd yn oed os dôn nhw i Gymru, hyd yn oed os dôn nhw i sir lle mae mwyafrif y bobl yn siarad Cymraeg. Gyda llaw, rwy’n deall yn llwyr pam mae arnyn nhw eisiau dod i wlad gyfoethog a ffodus fel ein un ni: pwy na wnâi’r un peth yn hytrach nag aros mewn gwlad dlawd neu wedi ei dinistrio gan frwydrau a gwleidyddiaeth ryngwladol ôl-wladychol y Gorllewin? Beth bynnag, nid oes yr un disgwyl ar bobl gwledydd eraill Prydain Fawr i ddysgu’r Gymraeg – ond fe ddylai fod. Nid pawb â chanddyn nhw’r ddawn i ddysgu ieithoedd yn hawdd, ond mae iaith yn rhan graidd o’r medrau sy’n ein gwneud yn ddynolryw: gall pawb ddysgu ieithoedd i raddau helaethach o lawer nag maen nhw’n ei goelio.

Rwyf wedi rhoi darn fawr o’m bywyd fel oedolyn hyd yn hyn i gefnogi’r rhai sy’n swyddus i ddysgu’r Gymraeg a’r Llydaweg. Nid oes llawer hoffwn ei wneud mwy na dal at y gwaith hyn cyn belled ag y gallaf. Pe gallwn i fyw drwy ddysgu’r ieithoedd hyn yn unig, ni wnawn i ond hynny, ysgrifennu, a byw yn yr ardal lle nid wyf bellach yn alltud dieithr fel o’r blaen yn fy mywyd ers fy ngeni yn Lloegr.

Advertisements


Categories: Cymraeg

%d bloggers like this: